Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 187(2)(b), (f), (g), (j), (k) ac (w) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU DRAFFT
2019 Rhif (Cy. )
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019
NODYN ESBONIADOL
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 ac yn nodi’r gofynion rheoleiddiol a’r ddarpariaeth gysylltiedig ar gyfer darparwyr gwasanaethau eirioli rheoleiddiedig a’r personau hynny sydd wedi eu dynodi’n “unigolion cyfrifol” ar gyfer gwasanaethau o’r fath.
Mae’r Rheoliadau wedi eu rhannu’n 18 o Rannau sy’n ymdrin ag agweddau gwahanol ar y gofynion. Mae rheoliad 2 yn Rhan 1 yn diffinio’r mathau o wasanaeth eirioli sydd i’w rheoleiddio o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.
Mae Rhan 2 yn nodi’r gofynion cyffredinol ar ddarparwyr gwasanaethau. Mae hyn yn cynnwys gofynion mewn perthynas â’r datganiad o ddiben, y trefniadau ar gyfer monitro a gwella, y cymorth sydd i’w ddarparu i’r unigolyn cyfrifol, y camau sydd i’w cymryd i sicrhau cynaliadwyedd ariannol a’r polisïau a’r gweithdrefnau y mae rhaid iddynt fod yn eu lle.
Mae rheoliad 11 yn Rhan 3 yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr benderfynu bod eu gwasanaeth yn addas i ddiwallu anghenion yr unigolyn cyn cymryd unigolyn ymlaen.
Mae Rhan 4 yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau lunio cynllun a’i gadw o dan adolygiad ar gyfer y cyfnod y maent yn darparu gwasanaeth i unigolyn.
Mae Rhan 5 yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr roi canllaw ysgrifenedig i bob person sy’n defnyddio’r gwasanaeth ac i awdurdodau lleol sy’n comisiynu gwasanaethau. Mae Rhan 6 yn gosod gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran ansawdd y gwasanaethau y mae rhaid iddynt eu darparu.
Mae Rhan 7 yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau sicrhau bod yr unigolion yn ddiogel ac wedi eu hamddiffyn rhag camdriniaeth, esgeulustod a thriniaeth amhriodol. Mae Rhan 8 yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau gyflogi staff sy’n addas ac yn rhagnodi’r hyn a olygir wrth addasrwydd at y dibenion hyn.
Mae Rhan 9 yn ei gwneud yn ofynnol bod gan ddarparwyr fangreoedd sy’n addas i’r diben a bod cyfleusterau a chyfarpar a ddefnyddir yn cyrraedd yr un safon. Mae Rhan 10 yn gosod nifer o ofynion eraill bod darparwyr gwasanaethau yn cynnal y cofnodion rhagnodedig, yn hysbysu’r rheoleiddiwr am ddigwyddiadau rhagnodedig, yn rheoli achosion o wrthdaro buddiannau, a bod ganddynt weithdrefnau cwyno a pholisi chwythu’r chwiban.
Mae Rhannau 11 i 15 yn gosod y gofynion sy’n gymwys i unigolion cyfrifol. Mae’r rhain yn cynnwys y ddyletswydd i benodi rheolwr ar gyfer y gwasanaeth, i oruchwylio’r gwaith o reoli’r gwasanaeth, i sicrhau cydymffurfedd â gofynion rheoleiddiol, ac i fonitro, adolygu a gwella ansawdd y gwasanaeth.
Mae Rhan 16 yn nodi’r rheoliadau hynny y mae trosedd wedi ei chyflawni os ydynt wedi eu torri ac sydd felly yn creu atebolrwydd troseddol ar gyfer darparwyr gwasanaethau ac unigolion cyfrifol.
Mae Rhan 17 yn nodi gofynion penodol sy’n gymwys pan fo’r darparwr gwasanaeth yn ansolfent neu pan fo darparwr gwasanaeth sy’n unigolyn wedi marw. O dan yr amgylchiadau hyn, mae’r rheoliadau yn y Rhan hon yn gosod dyletswyddau hysbysu penodol ar y person a benodir (yn achos ansolfedd) neu ar y cynrychiolwyr personol (yn achos marwolaeth darparwr gwasanaeth sy’n unigolyn). Mae rheoliad 58 yn galluogi’r cynrychiolwyr personol i weithredu yn rhinwedd y darparwr gwasanaeth ac mae’r Ddeddf wedi ei haddasu fel nad yw’n ofynnol, o dan yr amgylchiadau hyn, i’r cynrychiolwyr personol gofrestru ac y gall un o’r cynrychiolwyr personol gael ei ddynodi fel yr unigolyn cyfrifol mewn cysylltiad â man lle y darperir y gwasanaeth.
Mae Rhan 18 (rheoliad 59) yn pennu’r amgylchiadau pan gaiff Gweinidogion Cymru (yn lle darparwr gwasanaeth) ddynodi unigolyn i fod yn unigolyn cyfrifol, er nad yw gofynion cymhwystra adran 21(2) o’r Ddeddf wedi eu bodloni mewn cysylltiad â’r unigolyn. Mae’r rheoliad hwn wedi ei wneud o dan adran 21(5) o’r Ddeddf.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 187(2)(b), (f), (g), (j), (k) ac (w) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU DRAFFT
2019 Rhif (Cy. )
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019
Gwnaed ***
Yn dod i rym ***
CYNNWYS
RHAN 1
Cyffredinol
1. Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
2. Diffiniadau ac eithriadau
RHAN 2
Gofynion cyffredinol ar ddarparwyr gwasanaethau
3. Gofynion mewn perthynas â darparu’r gwasanaeth
4. Gofynion mewn perthynas â’r datganiad o ddiben
5. Gofynion mewn perthynas â monitro a gwella
6. Gofynion mewn perthynas â’r unigolyn cyfrifol
7. Gofynion mewn perthynas â’r unigolyn cyfrifol pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn
8. Gofynion mewn perthynas â chynaliadwyedd ariannol y gwasanaeth
9. Gofynion i ddarparu’r gwasanaeth yn unol â pholisïau a gweithdrefnau
10. Dyletswydd gonestrwydd
RHAN 3
Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran y camau sydd i’r cymryd cyn cytuno i ddarparu eiriolaeth
11. Addasrwydd y gwasanaeth
RHAN 4
Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran y camau sydd i’w cymryd wrth gychwyn darparu eiriolaeth
12. Cynllun eirioli
13. Adolygu’r cynllun eirioli
14. Cofnodion o gynlluniau eirioli
RHAN 5
Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran yr wybodaeth sydd i’w darparu i unigolion wrth gychwyn darparu eiriolaeth
15. Gwybodaeth am y gwasanaeth
RHAN 6
Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran safon yr eiriolaeth sydd i’w darparu
16. Safonau eiriolaeth – gofynion cyffredinol
17. Iaith a chyfathrebu
18. Parch a sensitifrwydd
19. Cyfrinachedd
RHAN 7
Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau – diogelu
20. Diogelu – gofyniad cyffredinol
21. Polisïau a gweithdrefnau diogelu
22. Dehongli Rhan 7
RHAN 8
Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran staffio
23. Staffio – gofynion cyffredinol
24. Addasrwydd staff
25. Cefnogi a datblygu staff
26. Cydymffurfio â chod ymarfer y cyflogwr
27. Gwybodaeth ar gyfer staff
28. Gweithdrefnau disgyblu
RHAN 9
Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran mangreoedd
29. Gofyniad cyffredinol
30. Mangreoedd
RHAN 10
Gofynion eraill ar ddarparwyr gwasanaethau
31. Cofnodion
32. Hysbysiadau
33. Gwrthdaro buddiannau
34. Polisi a gweithdrefn gwyno
35. Chwythu’r chwiban
RHAN 11
Gofynion ar unigolion cyfrifol ar gyfer sicrhau bod y gwasaneth yn cael ei reoli’n effeithiol
36. Goruchwylio’r gwaith o reoli’r gwasanaeth
37. Dyletswydd i benodi rheolwr
38. Gofynion o ran addasrwydd ar gyfer penodi rheolwr
39. Cyfyngiadau ar benodi rheolwr ar gyfer mwy nag un gwasanaeth
40. Dyletswydd i adrodd am benodi rheolwr i’r darparwr gwasanaeth
41. Dyletswydd i adrodd am benodi rheolwr i reoleiddiwr y gweithlu a’r rheoleiddiwr gwasanaethau
42. Y trefniadau pan yw’r rheolwr yn absennol
43. Ymweliadau
RHAN 12
Gofynion ar unigolion cyfrifol ar gyfer sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei oruchwylio’n effeithiol
44. Goruchwylio digonolrwydd adnoddau
45. Adroddiadau eraill i’r darparwr gwasanaeth
46. Ymgysylltu ag unigolion ac eraill
RHAN 13
Gofynion ar unigolion cyfrifol ar gyfer sicrhau cydymffurfedd y gwasanaeth
47. Dyletswydd i sicrhau bod systemau yn eu lle i gofnodi digwyddiadau a chwynion
48. Dyletswydd i sicrhau bod systemau yn eu lle ar gyfer cadw cofnodion
49. Dyletswydd i sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau yn gyfredol
RHAN 14
Gofynion ar unigolion cyfrifol ar gyfer monitro, adolygu a gwella ansawdd y gwasanaeth
50. Adolygiad o ansawdd y gofal
51. Datganiad o gydymffurfedd â’r gofynion o ran safonau eiriolaeth
RHAN 15
Gofynion eraill ar unigolion cyfrifol
52. Cymorth ar gyfer staff sy’n codi pryderon
53. Dyletswydd gonestrwydd
54. Hysbysiadau
RHAN 16
Troseddau
55. Troseddau – darparwyr gwasanaethau
56. Troseddau – unigolion cyfrifol
RHAN 17
Darparwyr gwasanaethau sydd wedi eu datod etc. neu sydd wedi marw
57. Penodi datodwyr etc.
58. Marwolaeth y darparwr gwasanaeth
RHAN 18
Rheoliadau o dan adran 21(5) o’r Ddeddf
59. Dynodiad unigolyn cyfrifol gan Weinidogion Cymru
ATODLEN 1
RHAN 1 – Gwybodaeth a dogfennau sydd i fod ar gael mewn cysylltiad â phersonau sy’n gweithio yn y gwasanaeth
RHAN 2 – Dehongli Rhan 1
ATODLEN 2 — Cofnodion sydd i’w cadw
ATODLEN 3 — Hysbysiadau gan y darparwr gwasanaeth
ATODLEN 4 — Hysbysiadau gan yr unigolyn cyfrifol
Drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 2(3), 21(5), 27, 28, 30, 31, 45, 46, 186(1) a 187(1) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016([1]) a chan baragraff 7(1) o Atodlen 1 iddi, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Mae Gweinidogion Cymru, fel sy’n ofynnol gan adrannau 27(4)(a) ac 28(4) o’r Ddeddf honno, wedi ymgynghori â’r personau hynny y maent yn meddwl eu bod yn briodol ac wedi cyhoeddi datganiad ynghylch yr ymgynghoriad fel sy’n ofynnol gan adran 27(4)(b) o’r Ddeddf honno. Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod y datganiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel sy’n ofynnol gan adran 27(5) o’r Ddeddf honno. Mae Gweinidogion Cymru hefyd wedi cynnal ymgynghoriad yn unol â’r gofyniad ym mharagraff 7(5) o Atodlen 1 i’r Ddeddf honno.
Gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 187(2)(b), (f), (g), (j), (k) ac (w) o’r Ddeddf honno ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
RHAN 1
Cyffredinol
Enwi, cychwyn a dehongli
1.—(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau
Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion
Cyfrifol) (Cymru) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar XXX Ebrill 2019.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “ardal benodedig” (“specified area”) yw ardal a bennir mewn amod i gofrestriad y darparwr gwasanaeth fel man y mae’r gwasanaeth i’w ddarparu mewn perthynas ag ef;
ystyr “comisiynydd y gwasanaeth” (“service commissioner”) yw’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am wneud trefniadau â darparwr gwasanaeth ar gyfer darparu cynhorthwy i blentyn neu berson o dan adran 178(1) o Ddeddf 2014([2]);
ystyr “cynllun eirioli” (“advocacy plan”) yw’r cynllun a lunnir gan y darparwr gwasanaeth mewn perthynas ag unigolyn yn unol â rheoliad 12;
ystyr “cynrychiolydd” (“representative”) yw unrhyw berson a chanddo awdurdod cyfreithiol, neu sydd wedi cael cydsyniad yr unigolyn i weithredu ar ran yr unigolyn;
ystyr “darparwr gwasanaeth” (“service provider”) yw darparwr gwasanaeth eirioli sydd wedi ei gofrestru o dan adran 7 o’r Ddeddf;
ystyr “datganiad o ddiben[LJ1] ” (“statement of purpose”) yw’r datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth y mae rhaid i ddarparwr gwasanaeth ei gadw o dan adolygiad a’i ddiwygio yn unol â rheoliad 4([3]);
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;
ystyr “eiriolaeth” (“advocacy”) yw cynhorthwy a roddir er mwyn helpu person i fynegi ei safbwyntiau;
ystyr “GDG” (“DBS”) neu “y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd” (“the Disclosure and Barring Service”) yw’r corff a sefydlir gan adran 87(1) o Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012([4]);
ystyr “gwasanaeth” (“service”) yw gwasanaeth eirioli a ddiffinnir yn rheoliad 2 sydd wedi ei ddarparu mewn perthynas ag ardal benodedig;
ystyr “plentyn” (“child”) yw person sydd o dan 18 oed;
ystyr “rheoleiddiwr gwasanaethau” (“service regulator”) yw Gweinidogion Cymru wrth arfer eu swyddogaethau rheoleiddiol([5]);
ystyr “tystysgrif GDG” (“DBS certificate”) yw tystysgrif o fath y cyfeirir ato ym mharagraff 2 neu 3 o Atodlen 1;
ystyr “unigolyn” (“individual”), ac eithrio pan fo’r cyd-destun yn mynnu fel arall, yw person y mae’r darparwr gwasanaeth yn darparu eiriolaeth ar ei gyfer, neu wedi darparu eiriolaeth ar ei gyfer, neu berson y caiff y darparwr gwasanaeth ddarparu eiriolaeth ar ei gyfer.
Diffiniad ac eithriadau
2.—(1)(1) At ddiben paragraff 7(1) o Atodlen 1 i’r Ddeddf,
mae gwasanaeth eirioli yn—
(a) gwasanaeth a gynhelir i ddarparu eiriolaeth ar gyfer plant sy’n cyflwyno neu’n bwriadu cyflwyno sylwadau sy’n dod o fewn adran 174 o Ddeddf 2014([6]); neu
(b) gwasanaeth a gynhelir i ddarparu eiriolaeth ar gyfer personau sy’n cyflwyno neu’n bwriadu cyflwyno sylwadau sy’n dod o fewn adran 176 o Ddeddf 2014([7]),
pan ddiben yr eiriolaeth yw cynrychioli safbwyntiau’r plant neu’r personau neu eu helpu i fynegi eu safbwyntiau mewn perthynas â’u hanghenion am ofal a chymorth([8]).
(2) Ond nid yw gwasanaeth y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yn wasanaeth eirioli—
(a) os yw’n cael ei ddarparu gan berson yng nghwrs gweithgaredd cyfreithiol o fewn yr ystyr a roddir i “legal activity” yn Neddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007([9]) gan berson sy’n—
(i) person awdurdodedig at ddibenion y Ddeddf honno, neu
(ii) cyfreithiwr Ewropeaidd (o fewn yr ystyr a roddir i “European lawyer” yng Ngorchymyn Cymunedau Ewropeaidd (Gwasanaethau Cyfreithwyr) 1978 ([10]));
(b) os yw’r cynhorthwy yn cael ei ddarparu gan swyddog achosion teuluol Cymreig yng nghwrs cyflawni swyddogaethau mewn perthynas ag achosion teuluol;
(c) os yw’r cynhorthwy yn cael ei ddarparu gan Gomisiynydd Plant Cymru neu gan aelod o staff Comisiynydd Plant Cymru;
(d) os yw’n cael ei ddarparu gan berson nad yw wedi darparu nac yn bwriadu darparu eiriolaeth i fwy na 4 person o fewn unrhyw gyfnod o 12 mis;
(e) i’r graddau y mae’n cael ei ddarparu gan berthynas neu gyfaill i’r person y cyflwynir sylwadau ar ei ran neu y bwriedir cyflwyno sylwadau ar ei ran.
(3) Yn y rheoliad hwn—
(a) mae i’r geiriau a’r ymadroddion a ganlyn yr ystyron a roddir iddynt—
(i) ystyr “perthynas” yw rhiant neu berson arall a chanddo gyfrifoldeb rhiant, brawd, chwaer, ewythr neu fodryb (pa un ai drwy briodas neu bartneriaeth sifil), tad-cu/taid neu fam-gu/nain, llys-riant, rhiant maeth neu ddarpar fabwysiadydd y lleolir y plentyn gydag ef neu hi;
(ii) mae i “achosion teuluol” yr ystyr a roddir i “family proceedings” gan adran 12 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llysoedd 2000([11]);
(iii) mae i “swyddog achosion teuluol Cymreig” yr un ystyr â “Welsh family proceedings officer” yn adran 35(4) o Ddeddf Plant 2004([12]);
(iv) mae “grŵp o frodyr a chwiorydd” yn cynnwys brodyr a chwiorydd a hanner brodyr a hanner chwiorydd; a
(b) wrth benderfynu a yw person wedi darparu neu’n bwriadu darparu gwasanaeth eirioli i fwy na 4 person at ddiben paragraff (2)(d), mae darparu eiriolaeth i grŵp o frodyr a chwiorydd yn cael ei gyfrif fel darparu eiriolaeth i un person.
RHAN 2
Gofynion cyffredinol ar ddarparwyr gwasanaethau
Gofynion mewn perthynas â darparu’r gwasanaeth
3. Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod y gwasanaeth wedi ei ddarparu â gofal, cymhwysedd a sgìl digonol, gan roi sylw i’r datganiad o ddiben.
Gofynion mewn perthynas â’r datganiad o ddiben
4.—(1)(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth ddarparu’r
gwasanaeth yn unol â’r datganiad o ddiben.
(2) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth—
(a) cadw’r datganiad o ddiben o dan adolygiad, a
(b) pan fo’n briodol, ddiwygio’r datganiad o ddiben.
(3) Oni bai bod paragraff (4) yn gymwys, rhaid i’r darparwr gwasanaeth hysbysu’r personau a restrir ym mharagraff (6) am unrhyw ddiwygiad sydd i’w wneud i’r datganiad o ddiben o leiaf 28 o ddiwrnodau cyn y mae i gymryd effaith.
(4) Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn achosion pan fo’n angenrheidiol diwygio’r datganiad o ddiben gydag effaith ar unwaith.
(5) Os yw paragraff (4) yn gymwys, rhaid i’r darparwr gwasanaeth, yn ddi-oed, hysbysu’r personau a restrir ym mharagraff (6) am unrhyw ddiwygiad a wneir i’r datganiad o ddiben.
(6) Y personau y mae rhaid iddynt gael eu hysbysu am unrhyw ddiwygiad i’r datganiad o ddiben yn unol â pharagraff (3) neu (5) yw—
(a) y rheoleiddiwr gwasanaethau,
(b) yr unigolion,
(c) comisiynwyr gwasanaethau, a
(d) unrhyw gynrychiolydd, oni bai nad yw’n briodol gwneud hynny neu y byddai gwneud hynny yn anghyson â llesiant unigolyn.
(7) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth ddarparu’r datganiad o ddiben cyfredol i unrhyw berson ar gais, oni bai nad yw’n briodol gwneud hynny neu y byddai gwneud hynny yn anghyson â llesiant unigolyn.
Gofynion mewn perthynas â monitro a gwella
5.—(1)(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod
trefniadau effeithiol yn eu lle ar gyfer monitro, adolygu a gwella
ansawdd yr eiriolaeth a ddarperir.
(2) Rhaid i’r trefniadau hynny gynnwys trefniadau ar gyfer ceisio safbwyntiau—
(a) unigolion,
(b) unrhyw gynrychiolwyr, oni bai nad yw hyn yn briodol neu y byddai’n anghyson â llesiant yr unigolyn,
(c) comisiynwyr gwasanaethau, a
(d) staff,
ar ansawdd yr eiriolaeth a ddarperir gan y gwasanaeth a sut y gellir gwella hyn.
(3) Wrth wneud unrhyw benderfyniadau ar gynlluniau ar gyfer gwella ansawdd yr eiriolaeth, rhaid i’r darparwr gwasanaeth—
(a) ystyried safbwyntiau’r personau hynny yr ymgynghorir â hwy yn unol â pharagraff (2), a
(b) rhoi sylw i’r adroddiad ar ansawdd y gwasanaeth a lunnir gan yr unigolyn cyfrifol yn unol â rheoliad 50(4).
Gofynion mewn perthynas â’r unigolyn cyfrifol
6.—(1)(1) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i ddarparwr
gwasanaeth sy’n unigolyn.
(2) Rhaid i ddarparwr gwasanaeth y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo sicrhau bod y person sydd wedi ei ddynodi fel yr unigolyn cyfrifol—
(a) yn cael ei gefnogi i gyflawni ei ddyletswyddau’n effeithiol; a
(b) yn ymgymryd â hyfforddiant priodol.
(3) Os bydd gan y darparwr gwasanaeth reswm dros gredu nad yw’r unigolyn cyfrifol wedi cydymffurfio â gofyniad a osodir gan reoliadau 36 i 54, rhaid i’r darparwr—
(a) cymryd unrhyw gamau gweithredu sy’n angenrheidiol i sicrhau y cydymffurfir â’r gofyniad; a
(b) hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau.
(4) Yn ystod unrhyw adeg pan nad yw’r unigolyn cyfrifol yn gallu cyflawni ei ddyletswyddau, rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod trefniadau yn eu lle ar gyfer—
(a) rheoli’r gwasanaeth yn effeithiol,
(b) goruchwylio’r gwasanaeth yn effeithiol,
(c) cydymffurfedd y gwasanaeth â gofynion y rheoliadau yn Rhannau 3 i 15, a
(d) monitro, adolygu a gwella ansawdd yr eiriolaeth a ddarperir.
(5) Os nad yw’r unigolyn cyfrifol yn gallu cyflawni ei ddyletswyddau am gyfnod o fwy nag 28 o ddiwrnodau, rhaid i’r darparwr gwasanaeth—
(a) hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau; a
(b) rhoi gwybod i’r rheoleiddiwr gwasanaethau am y trefniadau interim a wnaed i gydymffurfio â pharagraff (4).
Gofynion mewn perthynas â’r unigolyn cyfrifol pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn
7.—(1)(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r
darparwr gwasanaeth yn unigolyn.
(2) Os yw’r rheoliad hwn yn gymwys, rhaid i’r unigolyn ymgymryd â hyfforddiant priodol er mwyn cyflawni ei ddyletswyddau’n briodol fel yr unigolyn cyfrifol.
(3) Yn ystod unrhyw adeg pan yw’r unigolyn yn absennol, rhaid iddo sicrhau bod trefniadau yn eu lle ar gyfer—
(a) rheoli’r gwasanaeth yn effeithiol,
(b) goruchwylio’r gwasanaeth yn effeithiol,
(c) cydymffurfedd y gwasanaeth â gofynion y rheoliadau yn Rhannau 3 i 15, a
(d) monitro, adolygu a gwella ansawdd yr eiriolaeth a ddarperir gan y gwasanaeth.
(4) Os nad yw’r unigolyn yn gallu cyflawni ei ddyletswyddau fel unigolyn cyfrifol am gyfnod o fwy nag 28 o ddiwrnodau, rhaid i’r unigolyn—
(a) hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau, a
(b) rhoi gwybod i’r rheoleiddiwr gwasanaethau am y trefniadau interim a wnaed i gydymffurfio â pharagraff (3).
Gofynion mewn perthynas â chynaliadwyedd ariannol y gwasanaeth
8.—(1)(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gymryd camau
rhesymol i sicrhau bod y gwasanaeth yn gynaliadwy yn ariannol at
ddiben cyflawni’r nodau a’r amcanion a nodir yn y
datganiad o ddiben.
(2) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gynnal cyfrifon priodol a chyfredol ar gyfer y gwasanaeth.
(3) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth ddarparu copïau o’r cyfrifon i Weinidogion Cymru o fewn 28 o ddiwrnodau i gael cais i wneud hynny.
(4) Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i gyfrifon gael eu hardystio gan gyfrifydd.
Gofynion i ddarparu’r gwasanaeth yn unol â pholisïau a gweithdrefnau
9.—(1)(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod y
polisïau a’r gweithdrefnau a ganlyn yn eu lle ar gyfer y
gwasanaeth—
Cychwyn y gwasanaeth (gweler Rhan 3, rheoliad 11)
Cyfrinachedd (gweler Rhan 6, rheoliad 19)
Diogelu (gweler Rhan 7, rheoliad 21)
Cefnogi a datblygu staff (gweler Rhan 8, rheoliad 25)
Disgyblu staff (gweler Rhan 8, rheoliad 28)
Cwynion (gweler Rhan 10, rheoliad 34)
Chwythu’r chwiban (gweler Rhan 10, rheoliad 35).
(2) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael unrhyw bolisïau a gweithdrefnau eraill yn eu lle sy’n rhesymol angenrheidiol i gefnogi nodau ac amcanion y gwasanaeth.
(3) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod cynnwys y polisïau a’r gweithdrefnau y mae’n ofynnol iddynt fod yn eu lle yn rhinwedd paragraffau (1) a (2)—
(a) yn briodol i anghenion yr unigolion y darperir eiriolaeth ar eu cyfer,
(b) yn gyson â’r datganiad o ddiben, ac
(c) yn cael eu cadw’n gyfredol.
(4) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn unol â’r polisïau a’r gweithdrefnau hynny.
Dyletswydd gonestrwydd
10. Rhaid i’r darparwr gwasanaeth weithredu mewn ffordd agored a thryloyw gydag—
(a) unigolion,
(b) unrhyw gynrychiolwyr yr unigolion hynny.
RHAN 3
Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran y camau sydd i’w cymryd cyn cytuno i ddarparu eiriolaeth
Addasrwydd y gwasanaeth
11.—(1)(1) Ni chaiff y darparwr gwasanaeth ddarparu eiriolaeth ar
gyfer unigolyn oni bai bod y darparwr gwasanaeth wedi penderfynu
bod y gwasanaeth yn addas i ddiwallu angen yr unigolyn am
eiriolaeth.
(2) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisi a gweithdrefn yn eu lle ar gychwyn y gwasanaeth.
(3) Rhaid i’r penderfyniad o dan baragraff (1) ystyried—
(a) safbwyntiau, dymuniadau a theimladau’r unigolyn,
(b) unrhyw risgiau i lesiant yr unigolyn,
(c) unrhyw addasiadau rhesymol y gallai’r darparwr gwasanaeth eu gwneud i alluogi i anghenion eiriolaeth yr unigolyn gael eu diwallu, a
(d) polisi a gweithdrefnau’r darparwr gwasanaeth ar gychwyn y gwasanaeth.
(4) Wrth wneud y penderfyniad ym mharagraff (1), rhaid i’r darparwr gwasanaeth gynnwys yr unigolyn ac unrhyw gynrychiolydd. Ond nid yw’n ofynnol i’r darparwr gwasanaeth gynnwys cynrychiolydd—
(a) os yw’r unigolyn yn oedolyn neu’n blentyn 16 oed neu drosodd ac nad yw’r unigolyn yn dymuno i’r cynrychiolydd gael ei gynnwys; neu
(b) pe byddai cynnwys y cynrychiolydd yn anghyson â llesiant yr unigolyn.
RHAN 4
Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran y camau sydd i’w cymryd wrth gychwyn darparu eiriolaeth
Cynllun eirioli
12.—(1)(1) Os yw’r darparwr gwasanaeth yn penderfynu bod y
gwasanaeth yn addas i ddiwallu anghenion yr unigolyn, rhaid iddo,
cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, lunio cynllun
sy’n nodi—
(a) y camau sydd i’w cymryd i gynorthwyo’r unigolyn i gyflwyno sylwadau; a
(b) unrhyw gamau sydd i’w cymryd i liniaru risgiau a nodir i lesiant yr unigolyn.
(2) Wrth lunio’r cynllun eirioli, rhaid i’r darparwr gwasanaeth gynnwys yr unigolyn ac unrhyw gynrychiolydd oni bai—
(a) bod yr unigolyn yn oedolyn neu’n blentyn 16 oed neu drosodd ac nad yw’r unigolyn am i’r cynrychiolydd gael ei gynnwys; neu
(b) y byddai cynnwys y cynrychiolydd yn anghyson â llesiant yr unigolyn.
Adolygu’r cynllun eirioli
13.—(1)(1) Rhaid i’r cynllun eirioli gael ei adolygu fel a
phan y’i cytunir rhwng y darparwr gwasanaeth a’r
unigolyn.
(2) Rhaid i adolygiad o gynllun eirioli gynnwys adolygiad o’r graddau y mae’r unigolyn wedi gallu mynegi safbwyntiau’r unigolyn neu sicrhau bod y safbwyntiau hynny yn cael eu cynrychioli.
(3) Wrth gynnal adolygiad o dan y rheoliad hwn, rhaid i’r darparwr gwasanaeth gynnwys yr unigolyn ac unrhyw gynrychiolydd. Ond nid yw’n ofynnol i’r darparwr gwasanaeth gynnwys cynrychiolydd—
(a) os yw’r unigolyn yn oedolyn neu’n blentyn 16 oed neu drosodd ac nad yw’r unigolyn yn dymuno i’r cynrychiolydd gael ei gynnwys; neu
(b) pe byddai cynnwys y cynrychiolydd yn anghyson â llesiant yr unigolyn.
(4) Ar ôl cwblhau unrhyw adolygiad sy’n ofynnol gan y rheoliad hwn, rhaid i’r darparwr gwasanaeth ystyried a ddylai’r cynllun eirioli gael ei ddiwygio a diwygio’r cynllun fel y bo angen.
Cofnodion o gynlluniau eirioli
14. Rhaid i’r darparwr gwasanaeth—
(a) cadw cofnod o’r canlynol—
(i) y cynllun eirioli ac unrhyw gynllun diwygiedig, a
(ii) canlyniad unrhyw adolygiad, a
(b) rhoi copi o’r cynllun eirioli ac unrhyw gynllun diwygiedig i—
(i) yr unigolyn,
(ii) unrhyw gynrychiolydd, oni bai nad yw hyn yn briodol neu y byddai’n anghyson â llesiant yr unigolyn.
RHAN 5
Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran yr wybodaeth sydd i’w darparu i unigolion wrth gychwyn darparu eiriolaeth
Gwybodaeth am y gwasanaeth
15.—(1)(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth lunio canllaw
ysgrifenedig ar y gwasanaeth.
(2) Rhaid i’r canllaw—
(a) cael ei ddyddio, ei adolygu o leiaf bob blwyddyn a’i ddiweddaru fel y bo angen;
(b) bod mewn iaith, arddull, cyflwyniad a fformat priodol, gan roi sylw i’r datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth;
(c) cael ei roi i bob unigolyn sy’n cael eiriolaeth;
(d) cael ei roi i awdurdodau comisiynu; ac
(e) cael ei wneud ar gael i eraill ar gais, oni bai nad yw hyn yn briodol neu y byddai’n anghyson â llesiant unigolyn.
(3) Rhaid i’r canllaw gynnwys gwybodaeth am sut i godi pryder neu wneud cwyn.
(4) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod pob unigolyn yn cael unrhyw gymorth sy’n angenrheidiol i’w alluogi i ddeall yr wybodaeth a gynhwysir yn y canllaw.
RHAN 6
Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran safon yr eiriolaeth sydd i’w darparu
Safonau gwasanaeth
16.—(1)(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau y darperir
eiriolaeth mewn ffordd—
(a) sy’n galluogi unigolion i fynegi eu safbwyntiau ac i sicrhau bod y safbwyntiau hynny yn cael eu cynrychioli; a
(b) sy’n diogelu, yn hybu ac yn cynnal diogelwch a llesiant unigolion.
(2) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau y darperir eiriolaeth i bob unigolyn yn unol â chynllun eirioli’r unigolyn.
(3) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau y darperir yr eiriolaeth mewn ffordd—
(a) sy’n cynnal perthnasoedd personol a phroffesiynol da ag unigolion a staff; a
(b) sy’n annog ac yn cynorthwyo staff i gynnal perthnasoedd personol a phroffesiynol da ag unigolion.
(4) Os nad yw’r darparwr gwasanaeth, o ganlyniad i newid yn amgylchiadau’r unigolyn, yn gallu diwallu’r anghenion hynny mwyach, hyd yn oed ar ôl gwneud unrhyw addasiadau rhesymol, rhaid i’r darparwr roi hysbysiad ysgrifenedig o hyn i’r unigolyn, unrhyw gynrychiolydd a chomisiynydd y gwasanaeth ar unwaith.
(5) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth ystyried a oes ar unigolyn angen cyngor neu gynhorthwy cyfreithiol neu gyngor neu gynhorthwy arbenigol arall a chymryd pob cam rhesymol i gael y cyngor hwnnw neu’r cynhorthwy hwnnw.
Iaith a chyfathrebu
17. Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gymryd camau rhesymol i ddiwallu anghenion iaith a chyfathrebu unigolion.
Parch a sensitifrwydd
18.—(1)(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod
unigolion yn cael eu trin â pharch a sensitifrwydd.
(2) Mae hyn yn cynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i—
(a) parchu preifatrwydd ac urddas yr unigolyn;
(b) hybu ymreolaeth ac annibyniaeth yr unigolyn;
(c) rhoi sylw i unrhyw nodweddion gwarchodedig perthnasol (fel y’u diffinnir yn adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010([13])) yr unigolyn.
Cyfrinachedd
19.—(1)(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth barchu
hawliau’r unigolyn i gyfrinachedd.
(2) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisi yn ei le ynghylch hawl unigolion i gyfrinachedd, sydd hefyd yn cynnwys yr amgylchiadau pan ganiateir i hawl unigolyn i gyfrinachedd gael ei threchu, a rhaid iddo weithredu’r gwasanaeth yn unol â’r polisi.
RHAN 7
Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau – diogelu
Diogelu - gofyniad cyffredinol
20. Rhaid i’r darparwr gwasanaeth ddarparu’r gwasanaeth mewn ffordd sy’n sicrhau bod unigolion yn ddiogel ac yn cael eu hamddiffyn rhag camdriniaeth, esgeulustod a thriniaeth amhriodol.
Polisïau a gweithdrefnau diogelu
21.—(1)(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisïau a
gweithdrefnau yn eu lle ar gyfer—
(a) atal camdriniaeth, esgeulustod a thriniaeth amhriodol, a
(b) ymateb i unrhyw honiad neu dystiolaeth o gamdriniaeth, esgeulustod neu driniaeth amhriodol.
(2) Yn y rheoliad hwn, cyfeirir at bolisïau a gweithdrefnau o’r fath fel polisïau a gweithdrefnau diogelu.
(3) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod ei bolisïau a’i weithdrefnau diogelu yn cael eu gweithredu’n effeithiol.
(4) Yn benodol, pan fo honiad neu dystiolaeth o gamdriniaeth, esgeulustod neu driniaeth amhriodol, rhaid i’r darparwr gwasanaeth—
(a) gweithredu yn unol â’i bolisïau a’i weithdrefnau diogelu;
(b) cymryd camau gweithredu ar unwaith i sicrhau diogelwch pob unigolyn y darperir gwasanaethau eirioli ar ei gyfer;
(c) gwneud atgyfeiriadau priodol i asiantaethau eraill; a
(d) cadw cofnod o unrhyw dystiolaeth neu sylwedd unrhyw honiad, unrhyw gamau gweithredu a gymerir ac unrhyw atgyfeiriadau a wneir.
Dehongli Rhan 7
22. Yn y Rhan hon—
ystyr “camdriniaeth” (“abuse”) yw camdriniaeth gorfforol, rywiol, seicolegol, emosiynol neu ariannol ac, mewn perthynas â phlentyn, unrhyw niwed arall, ac at ddibenion y diffiniad hwn—
(a) mae “camdriniaeth ariannol” yn cynnwys—
(i) bod arian neu eiddo arall person yn cael ei ddwyn;
(ii) bod person yn cael ei dwyllo;
(iii) bod person yn cael ei roi o dan bwysau mewn perthynas ag arian neu eiddo arall;
(iv) bod arian neu eiddo arall person yn cael ei gamddefnyddio;
(b) mae i “niwed” yr un ystyr ag yn adran 197(1) o Ddeddf 2014;
mae i “esgeulustod” (“neglect”) yr un ystyr ag yn adran 197(1) o Ddeddf 2014;
mae “triniaeth amhriodol” (“improper treatment”) yn cynnwys gwahaniaethu neu atal anghyfreithlon, gan gynnwys amddifadu amhriodol o ryddid o dan delerau Deddf Galluedd Meddyliol 2005([14]).
RHAN 8
Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran staffio
Staffio - gofynion cyffredinol
23. Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau ar bob adeg fod nifer digonol o staff sydd â’r cymwysterau, yr hyfforddiant, y sgiliau, y cymhwysedd a’r profiad addas yn cael eu defnyddio i weithio yn y gwasanaeth, gan roi sylw i’r datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth.
Addasrwydd staff
24.—(1)(1) Ni chaiff y darparwr gwasanaeth—
(a) cyflogi person o dan gontract cyflogaeth i weithio yn y gwasanaeth oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny;
(b) caniatáu i wirfoddolwr weithio yn y gwasanaeth oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny;
(c) caniatáu i unrhyw berson arall weithio yn y gwasanaeth mewn swydd y gall, yng nghwrs ei ddyletswyddau, gael cysylltiad rheolaidd ynddi ag unigolion hyglwyf neu â phersonau hyglwyf eraill oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny.
(2) At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn addas i weithio yn y gwasanaeth oni bai—
(a) bod y person yn addas o ran ei uniondeb ac o gymeriad da;
(b) bod gan y person y cymwysterau, y sgiliau, y cymhwysedd a’r profiad sy’n angenrheidiol ar gyfer y gwaith y mae’r person hwnnw i’w wneud;
(c) bod y person, oherwydd ei iechyd, ar ôl i addasiadau rhesymol gael eu gwneud, yn gallu cyflawni’n briodol y tasgau sy’n rhan annatod o’r gwaith y mae’r person hwnnw wedi ei gyflogi neu ei gymryd ymlaen ar ei gyfer;
(d) bod y person wedi darparu gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl y digwydd, mewn cysylltiad â phob un o’r materion a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 1 a bod yr wybodaeth hon neu’r ddogfennaeth hon ar gael yn y gwasanaeth i’r rheoleiddiwr gwasanaethau edrych arni;
(e) pan fo’r person wedi ei gyflogi gan y darparwr gwasanaeth i reoli’r gwasanaeth ar ôl 1 Medi 2022, fod y person wedi ei gofrestru fel rheolwr gofal cymdeithasol â GCC([15]).
(3) Rhaid i gais gael ei wneud am dystysgrif GDG briodol gan neu ar ran y darparwr gwasanaeth at ddiben asesu addasrwydd person ar gyfer y swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1). Ond nid yw’r gofyniad hwn yn gymwys os yw’r person sy’n gweithio yn y gwasanaeth wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (y cyfeirir ato yn y rheoliad hwn fel “gwasanaeth diweddaru’r GDG”).
(4) Pan fo person sy’n cael ei ystyried ar gyfer swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, rhaid i’r darparwr gwasanaeth wirio statws tystysgrif GDG y person at ddiben asesu addasrwydd y person hwnnw ar gyfer y swydd honno.
(5) Pan fo person a benodir i swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, rhaid i’r darparwr gwasanaeth wirio statws tystysgrif GDG y person o leiaf bob blwyddyn.
(6) Pan na fo person a benodir i swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, rhaid i’r darparwr gwasanaeth wneud cais am dystysgrif GDG newydd mewn cysylltiad â’r person hwnnw o fewn tair blynedd i ddyroddi’r dystysgrif y gwneir cais amdani yn unol â pharagraff (3) ac wedi hynny rhaid i geisiadau pellach o’r fath gael eu gwneud o leiaf bob tair blynedd.
(7) Os nad yw person sy’n gweithio yn y gwasanaeth yn addas i weithio yn y gwasanaeth mwyach o ganlyniad i beidio â bodloni un neu ragor o’r gofynion ym mharagraff (2), rhaid i’r darparwr gwasanaeth—
(a) cymryd camau gweithredu angenrheidiol a chymesur i sicrhau y cydymffurfir â’r gofynion perthnasol;
(b) pan fo’n briodol, hysbysu—
(i) y corff rheoleiddiol neu broffesiynol perthnasol;
(ii) y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Cefnogi a datblygu staff
25.—(1)(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisi yn ei le
ar gyfer cefnogi a datblygu staff.
(2) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod unrhyw berson sy’n gweithio yn y gwasanaeth (gan gynnwys person y caniateir iddo weithio fel gwirfoddolwr)—
(a) yn cael cyfnod sefydlu sy’n briodol i’w rôl;
(b) yn cael ei wneud yn ymwybodol o’i gyfrifoldebau ei hun a chyfrifoldebau staff eraill;
(c) yn cael ei oruchwylio a’i arfarnu’n briodol;
(d) yn cael hyfforddiant craidd sy’n briodol i’r gwaith sydd i’w wneud ganddo;
(e) yn cael hyfforddiant arbenigol fel y bo’n briodol;
(f) yn cael cymorth a chynhorthwy i gael unrhyw hyfforddiant pellach sy’n briodol i’r gwaith y mae’n ei wneud.
(3) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod unrhyw berson a gyflogir i weithio yn y gwasanaeth yn cael ei gefnogi i gynnal ei gofrestriad â’r corff rheoleiddiol neu alwedigaethol priodol.
Cydymffurfio â chod ymarfer y cyflogwr
26. Rhaid i’r darparwr gwasanaeth lynu wrth y cod ymarfer ar y safonau ymddygiad ac ymarfer a ddisgwylir oddi wrth bersonau sy’n cyflogi neu sy’n ceisio cyflogi gweithwyr gofal cymdeithasol, y mae’n ofynnol iddo gael ei gyhoeddi gan GCC o dan adran 112(1)(b) o’r Ddeddf.
Gwybodaeth ar gyfer staff
27.—(1)(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau y darperir
gwybodaeth i bob person sy’n gweithio yn y gwasanaeth (gan
gynnwys unrhyw berson y caniateir iddo weithio fel gwirfoddolwr) am
y gwasanaeth a’r ffordd y caiff ei ddarparu.
(2) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod trefniadau yn eu lle i wneud staff yn ymwybodol o unrhyw godau ymarfer ynghylch y safonau ymddygiad a ddisgwylir oddi wrth weithwyr gofal cymdeithasol, y mae’n ofynnol iddynt gael eu cyhoeddi gan GCC o dan adran 112(1)(a) o’r Ddeddf.
Gweithdrefnau disgyblu
28.—(1)(1) — Rhaid i’r darparwr gwasanaeth roi
gweithdrefn ddisgyblu yn ei lle a’i gweithredu.
(2) Rhaid i’r weithdrefn ddisgyblu gynnwys—
(a) darpariaeth ar gyfer atal dros dro, a chymryd camau gweithredu heb fod mor bell ag atal dros dro, gyflogai er budd diogelwch neu lesiant unigolion;
(b) darpariaeth bod methiant ar ran cyflogai i adrodd am achos o gam-drin, neu am amheuaeth o gam-drin, i berson priodol yn sail dros ganiatáu cychwyn achos disgyblu.
(3) At ddiben paragraff (2)(b), person priodol yw—
(a) y darparwr gwasanaeth,
(b) yr unigolyn cyfrifol,
(c) swyddog i’r rheoleiddiwr gwasanaethau,
(d) swyddog i’r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y darperir y gwasanaeth ynddi,
(e) yn achos cam-drin neu amheuaeth o gam-drin plentyn, swyddog i’r Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant, neu
(f) swyddog heddlu.
RHAN 9
Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran mangreoedd
Gofyniad cyffredinol
29. Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod y mangreoedd, y cyfleusterau a’r cyfarpar yn addas ar gyfer y gwasanaeth, gan roi sylw i’r datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth.
Mangreoedd
30. Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod gan y mangreoedd a ddefnyddir ar gyfer gweithredu’r gwasanaeth gyfleusterau digonol ar gyfer storio cofnodion yn ddiogel.
RHAN 10
Gofynion eraill ar ddarparwyr gwasanaethau
Cofnodion
31.—(1)(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gadw a chynnal y
cofnodion a bennir yn Atodlen 2 mewn cysylltiad â phob man y
darperir y gwasanaeth ynddo, ohono neu mewn perthynas ag
ef.
(2) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth—
(a) sicrhau bod cofnodion sy’n ymwneud ag unigolion yn gywir ac yn gyfredol;
(b) cadw pob cofnod yn ddiogel;
(c) gwneud trefniadau er mwyn i’r cofnodion barhau i gael eu cadw’n ddiogel os bydd y gwasanaeth yn cau;
(d) rhoi’r cofnodion ar gael i’r rheoleiddiwr gwasanaethau ar gais;
(e) cadw cofnodion sy’n ymwneud ag oedolion am dair blynedd o ddyddiad y cofnod diwethaf;
(f) cadw cofnodion sy’n ymwneud â phlant am bymtheng mlynedd o ddyddiad y cofnod diwethaf;
(g) sicrhau bod unigolion sy’n defnyddio’r gwasanaeth—
(i) yn gallu cael mynediad i’w cofnodion; a
(ii) yn cael eu gwneud yn ymwybodol eu bod yn gallu cael mynediad i’w cofnodion.
Hysbysiadau
32.—(1)(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth hysbysu’r
rheoleiddiwr gwasanaethau am y digwyddiadau a bennir yn Atodlen
3.
(2) Rhaid i’r hysbysiadau sy’n ofynnol gan baragraff (1) gynnwys manylion y digwyddiad.
(3) Oni nodir fel arall, rhaid i hysbysiadau gael eu gwneud yn ddi-oed ac yn ysgrifenedig.
(4) Rhaid i hysbysiadau gael eu gwneud yn y modd a’r ffurf sy’n ofynnol gan y rheoleiddiwr gwasanaethau.
Gwrthdaro buddiannau
33. Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael trefniadau effeithiol yn eu lle i nodi, cofnodi a rheoli achosion o wrthdaro buddiannau.
Polisi a gweithdrefn gwyno
34.—(1)(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisi cwyno yn
ei le a sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei weithredu yn unol
â’r polisi hwnnw.
(2) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael trefniadau effeithiol yn eu lle ar gyfer ymdrin â chwynion gan gynnwys trefniadau ar gyfer—
(a) nodi cwynion ac ymchwilio iddynt;
(b) rhoi ymateb priodol i berson sy’n gwneud cwyn, os yw’n rhesymol ymarferol cysylltu â’r person hwnnw;
(c) sicrhau bod camau gweithredu priodol yn cael eu cymryd yn dilyn ymchwiliad;
(d) cadw cofnodion sy’n ymwneud â’r materion yn is-baragraffau (a) i (c).
(3) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth ddarparu crynodeb o gwynion, ymatebion a chamau gweithredu dilynol i’r rheoleiddiwr gwasanaethau o fewn 28 o ddiwrnodau i gael cais i wneud hynny.
(4) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth—
(a) dadansoddi gwybodaeth sy’n ymwneud â chwynion a phryderon; a
(b) gan roi sylw i’r dadansoddiad hwnnw, nodi unrhyw feysydd i’w gwella.
Chwythu’r chwiban
35.—(1)(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael trefniadau yn
eu lle i sicrhau bod pob person sy’n gweithio yn y gwasanaeth
(gan gynnwys unrhyw berson y caniateir iddo weithio fel
gwirfoddolwr) yn gallu codi pryderon am faterion a all
effeithio’n andwyol ar iechyd, diogelwch neu lesiant
unigolion y darperir y gwasanaeth ar eu cyfer.
(2) Rhaid i’r trefniadau hyn gynnwys—
(a) cael polisi chwythu’r chwiban yn ei le a gweithredu yn unol â’r polisi hwnnw; a
(b) sefydlu trefniadau i alluogi a chefnogi pobl sy’n gweithio yn y gwasanaeth i godi pryderon o’r fath.
(3) Rhaid i’r darparwr sicrhau bod y trefniadau sy’n ofynnol o dan y rheoliad hwn yn cael eu gweithredu’n effeithiol.
(4) Pan godir pryder, rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau—
(a) yr ymchwilir i’r pryder;
(b) y cymerir camau priodol yn dilyn ymchwiliad;
(c) y cedwir cofnod o’r ddau beth uchod.
RHAN 11
Gofynion ar unigolion cyfrifol ar gyfer sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei reoli’n effeithiol
Goruchwylio’r gwaith o reoli’r gwasanaeth
36. Rhaid i’r unigolyn cyfrifol oruchwylio’r gwaith o reoli’r gwasanaeth, sy’n cynnwys y gofynion penodol a nodir yn y Rhan hon.
Dyletswydd i benodi rheolwr
37.—(1)(1) Rhaid i’r unigolyn cyfrifol benodi person i
reoli’r gwasanaeth. Ond nid yw’r gofyniad hwn yn gymwys
os yw’r amodau ym mharagraff (2) neu (3) yn
gymwys.
(2) Yr amodau yw—
(a) bod y darparwr gwasanaeth yn unigolyn;
(b) bod y darparwr gwasanaeth yn bwriadu rheoli’r gwasanaeth;
(c) bod y darparwr gwasanaeth yn addas i reoli’r gwasanaeth;
(d) yn ddarostyngedig i baragraff (6), fod y darparwr gwasanaeth wedi ei gofrestru fel rheolwr gofal cymdeithasol â GCC; ac
(e) bod y rheoleiddiwr gwasanaethau yn cytuno i’r darparwr gwasanaeth reoli’r gwasanaeth.
(3) Yr amodau yw—
(a) bod y darparwr gwasanaeth yn bartneriaeth, yn gorff corfforaethol neu’n gorff anghorfforedig;
(b) bod y darparwr gwasanaeth yn cynnig bod yr unigolyn sydd wedi ei ddynodi fel yr unigolyn cyfrifol am y gwasanaeth i’w benodi i reoli’r gwasanaeth;
(c) bod yr unigolyn hwnnw yn addas i reoli’r gwasanaeth;
(d) yn ddarostyngedig i baragraff (6), fod yr unigolyn hwnnw wedi ei gofrestru fel rheolwr gofal cymdeithasol â GCC; ac
(e) bod y rheoleiddiwr gwasanaethau yn cytuno i’r unigolyn hwnnw reoli’r gwasanaeth.
(4) At ddibenion paragraff (2)(c), nid yw’r darparwr gwasanaeth yn addas i reoli’r gwasanaeth oni bai bod gofynion rheoliad 24(2) (addasrwydd staff) wedi eu bodloni mewn cysylltiad â’r darparwr gwasanaeth.
(5) Nid yw’r ddyletswydd ym mharagraff (1) wedi ei chyflawni os yw’r person a benodir i reoli’r gwasanaeth yn absennol am gyfnod o fwy na thri mis.
(6) Nid yw’r amod ym mharagraffau (2)(d) a (3)(d) ond yn gymwys ar ôl 1 Medi 2022.
Gofynion o ran addasrwydd ar gyfer penodi rheolwr
38.—(1)(1) Ni chaiff yr unigolyn cyfrifol benodi person i
reoli’r gwasanaeth oni bai bod y person hwnnw yn addas i
wneud hynny.
(2) At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn addas i reoli’r gwasanaeth oni bai bod gofynion rheoliad 24(2) (addasrwydd staff) wedi eu bodloni mewn cysylltiad â’r person hwnnw.
Cyfyngiadau ar benodi rheolwr ar gyfer mwy nag un gwasanaeth
39.—(1)(1) Ni chaiff yr unigolyn cyfrifol benodi person i reoli mwy
nag un gwasanaeth, oni bai bod paragraff (2) yn gymwys.
(2) Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
(a) os yw’r darparwr gwasanaeth wedi gwneud cais i’r rheoleiddiwr gwasanaethau am ganiatâd i benodi rheolwr ar gyfer mwy nag un gwasanaeth; a
(b) os yw’r rheoleiddiwr gwasanaethau wedi ei fodloni—
(i) na fydd y trefniadau rheoli arfaethedig yn cael effaith andwyol ar allu’r darparwr gwasanaeth i fodloni gofynion rheoliad 16(1); a
(ii) y bydd y trefniadau rheoli arfaethedig yn darparu goruchwyliaeth ddibynadwy ac effeithiol o bob gwasanaeth.
Dyletswydd i adrodd am benodi rheolwr i’r darparwr gwasanaeth
40. Wrth benodi rheolwr yn unol â rheoliad 37(1), rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi hysbysiad i’r darparwr gwasanaeth—
(a) o enw’r person a benodir, a
(b) o’r dyddiad y mae’r penodiad i gymryd effaith.
Dyletswydd i adrodd am benodi rheolwr i reoleiddiwr y gweithlu a’r rheoleiddiwr gwasanaethau
41.—(1)(1) Wrth benodi rheolwr yn unol â rheoliad 37(1), rhaid
i’r unigolyn cyfrifol roi hysbysiad i GCC a’r
rheoleiddiwr gwasanaethau—
(a) o enw, dyddiad geni a rhif cofrestru GCC y person a benodir, a
(b) o’r dyddiad y mae’r penodiad i gymryd effaith.
(2) Mewn achos pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn a bod y rheoleiddiwr gwasanaethau wedi cytuno i’r darparwr gwasanaeth reoli’r gwasanaeth, rhaid i’r darparwr gwasanaeth roi hysbysiad i GCC—
(a) o enw, dyddiad geni a rhif cofrestru GCC y darparwr gwasanaeth, a
(b) o’r dyddiad y mae’r darparwr gwasanaeth i reoli’r gwasanaeth ohono.
Y trefniadau pan yw’r rheolwr yn absennol
42.—(1)(1) Rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi trefniadau addas
yn eu lle i sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei reoli’n
effeithiol ar unrhyw adeg pan nad oes rheolwr neu pan nad
yw’r rheolwr yn bresennol yn y gwasanaeth.
(2) Os nad oes rheolwr neu os nad yw’r rheolwr yn bresennol yn y gwasanaeth am gyfnod o fwy nag 28 o ddiwrnodau, rhaid i’r unigolyn cyfrifol—
(a) hysbysu’r darparwr gwasanaeth a’r rheoleiddiwr gwasanaethau; a
(b) rhoi gwybod iddynt am y trefniadau sydd wedi eu rhoi yn eu lle ar gyfer rheoli’r gwasanaeth yn effeithiol.
Ymweliadau
43.—(1)(1) Rhaid i’r unigolyn cyfrifol—
(a) ymweld â’r fangre y darperir y gwasanaeth ohoni;
(b) cwrdd ag aelodau o staff sydd wedi eu cyflogi i ddarparu’r gwasanaeth mewn perthynas â phob man y mae’r unigolyn cyfrifol wedi ei ddynodi mewn cysylltiad ag ef; ac
(c) cwrdd ag unigolion y mae eiriolaeth yn cael ei darparu ar eu cyfer mewn perthynas â phob man o’r fath.
(2) Mae amlder ymweliadau a chyfarfodydd o’r fath i’w benderfynu gan yr unigolyn cyfrifol gan roi sylw i’r datganiad o ddiben ond rhaid iddynt gael eu cynnal o leiaf bob tri mis.
RHAN 12
Gofynion ar unigolion cyfrifol ar gyfer sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei oruchwylio’n effeithiol
Goruchwylio digonolrwydd adnoddau
44.—(1)(1) Rhaid i’r unigolyn cyfrifol adrodd i’r
darparwr gwasanaeth am ddigonolrwydd yr adnoddau sydd ar gael i
ddarparu’r gwasanaeth yn unol â’r gofynion ar
ddarparwyr gwasanaethau yn Rhannau 3 i 15.
(2) Rhaid i adroddiadau o’r fath gael eu gwneud yn chwarterol.
(3) Ond nid yw’r gofyniad hwn yn gymwys pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn.
Adroddiadau eraill i’r darparwr gwasanaeth
45.—(1)(1) Rhaid i’r unigolyn cyfrifol, yn ddi-oed, adrodd
i’r darparwr gwasanaeth—
(a) am unrhyw bryderon ynghylch rheoli neu ddarparu’r gwasanaeth;
(b) am unrhyw newidiadau sylweddol i’r ffordd y caiff y gwasanaeth ei reoli neu ei ddarparu;
(c) am unrhyw bryderon nad yw’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn unol â’r datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth.
(2) Ond nid yw’r gofyniad hwn yn gymwys pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn.
Ymgysylltu ag unigolion ac eraill
46.—(1)(1) Rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi trefniadau addas
yn eu lle ar gyfer cael safbwyntiau—
(a) unigolion,
(b) unrhyw gynrychiolwyr yr unigolion hynny,
(c) comisiynwyr gwasanaethau, a
(d) staff sy’n cael eu cyflogi yn y gwasanaeth,
ar ansawdd yr eiriolaeth a ddarperir a sut y gellir gwella hyn.
(2) Rhaid i’r unigolyn cyfrifol adrodd am y safbwyntiau a geir i’r darparwr gwasanaeth er mwyn i’r safbwyntiau hyn allu cael eu hystyried gan y darparwr gwasanaeth wrth wneud unrhyw benderfyniadau ar gynlluniau ar gyfer gwella ansawdd yr eiriolaeth a ddarperir.
RHAN 13
Gofynion ar unigolion cyfrifol ar gyfer sicrhau cydymffurfedd y gwasanaeth
Dyletswydd i sicrhau bod systemau yn eu lle i gofnodi digwyddiadau a chwynion
47. Rhaid i’r unigolyn cyfrifol sicrhau bod systemau effeithiol yn eu lle i gofnodi digwyddiadau, cwynion a materion y mae rhaid gwneud hysbysiadau yn eu cylch yn unol â rheoliadau 32 a 54.
Dyletswydd i sicrhau bod systemau yn eu lle ar gyfer cadw cofnodion
48. Rhaid i’r unigolyn cyfrifol sicrhau bod systemau effeithiol yn eu lle mewn perthynas â chadw cofnodion, sy’n cynnwys systemau ar gyfer sicrhau bod cofnodion y mae’n ofynnol iddynt gael eu cadw gan reoliad 31 yn gywir ac yn gyflawn.
Dyletswydd i sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau yn gyfredol
49. Rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi trefniadau addas yn eu lle i sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau’r darparwr gwasanaeth yn cael eu cadw’n gyfredol, gan roi sylw i’r datganiad o ddiben.
RHAN 14
Gofynion ar unigolion cyfrifol ar gyfer monitro, adolygu a gwella ansawdd y gwasanaeth
Adolygiad o ansawdd y gwasanaeth
50.—(1)(1) Rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi trefniadau addas
yn eu lle i sefydlu a chynnal system ar gyfer monitro, adolygu a
gwella ansawdd y gwasanaeth.
(2) Rhaid i’r system a sefydlir o dan baragraff (1) wneud darpariaeth i ansawdd y gwasanaeth gael ei adolygu mor aml ag sy’n ofynnol ond o leiaf bob chwe mis.
(3) Fel rhan o unrhyw adolygiad a gynhelir, rhaid i’r unigolyn cyfrifol wneud trefniadau ar gyfer—
(a) ystyried canlyniad yr ymgysylltiad ag unigolion ac eraill, fel sy’n ofynnol gan reoliad 46 (ymgysylltu ag unigolion ac eraill);
(b) dadansoddi’r data cyfanredol ar ddigwyddiadau, digwyddiadau hysbysadwy, materion diogelu, chwythu’r chwiban, pryderon a chwynion;
(c) adolygu unrhyw gamau gweithredu a gymerir mewn perthynas â chwynion;
(d) ystyried canlyniad unrhyw archwiliad o gywirdeb a chyflawnrwydd cofnodion.
(4) Ar ôl cwblhau adolygiad o ansawdd y gwasanaeth yn unol â’r rheoliad hwn, rhaid i’r unigolyn cyfrifol lunio adroddiad i’r darparwr gwasanaeth y mae rhaid iddo gynnwys—
(a) asesiad o safon yr eiriolaeth a ddarperir, a
(b) argymhellion ar gyfer gwella’r gwasanaeth.
(5) Ond nid yw’r gofyniad ym mharagraff (4) yn gymwys pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn.
Datganiad o gydymffurfedd â’r gofynion o ran safonau eiriolaeth
51.—(1)(1) Rhaid i’r unigolyn cyfrifol lunio’r
datganiad y mae’n ofynnol iddo gael ei gynnwys yn y datganiad
blynyddol o dan adran 10(2)(b) o’r Ddeddf, i’r graddau
y mae’n ymwneud â’r man neu’r mannau y
mae’r unigolyn cyfrifol wedi ei ddynodi mewn cysylltiad ag ef
neu â hwy.
(2) Wrth lunio’r datganiad, rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi sylw i’r asesiad o safon yr eiriolaeth a gynhwysir mewn adroddiad a lunnir yn unol â rheoliad 50(4).
RHAN 15
Gofynion eraill ar unigolion cyfrifol
Cymorth ar gyfer staff sy’n codi pryderon
52. Rhaid i’r unigolyn cyfrifol sicrhau y cydymffurfir â pholisi chwythu chwiban y darparwr a bod y trefniadau i alluogi a chefnogi pobl sy’n gweithio yn y gwasanaeth i godi pryderon o’r fath yn cael eu gweithredu’n effeithiol.
Dyletswydd gonestrwydd
53. Rhaid i’r unigolyn cyfrifol weithredu mewn ffordd agored a thryloyw gydag—
(a) unigolion,
(b) unrhyw gynrychiolwyr yr unigolion hynny.
Hysbysiadau
54.—(1)(1) Rhaid i’r unigolyn cyfrifol hysbysu’r
rheoleiddiwr gwasanaethau am y digwyddiadau a bennir yn Atodlen
4.
(2) Rhaid i’r hysbysiadau sy’n ofynnol gan baragraff (1) gynnwys manylion y digwyddiad.
(3) Oni nodir fel arall, rhaid i hysbysiadau gael eu gwneud yn ddi-oed ac yn ysgrifenedig.
(4) Rhaid i hysbysiadau gael eu gwneud yn y modd a’r ffurf sy’n ofynnol gan y rheoleiddiwr gwasanaethau.
RHAN 16
Troseddau
Troseddau – darparwyr gwasanaethau
55.—(1)(1) Mae’n drosedd i ddarparwr gwasanaeth fethu â
chydymffurfio â gofyniad unrhyw un neu ragor o’r
darpariaethau a bennir ym mharagraff (2)([16]).
(2) Y darpariaethau a bennir at ddibenion paragraff (1) yw darpariaethau rheoliadau 4(3), 4(5), 8(3), 9(1), 9(3), 15(1), 15(2), 15(3), 24(1), 27(1), 31(1), 31(2), 32(1) a 32(3).
(3) Mae darparwr gwasanaeth yn cyflawni trosedd os yw’r darparwr yn methu â chydymffurfio â gofyniad unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a bennir ym mharagraff (4) a bod methiant o’r fath yn arwain at—
(a) niwed y gellir ei osgoi (pa un ai o natur gorfforol neu seicolegol) i unigolyn,
(b) unigolyn yn cael ei wneud yn agored i risg sylweddol o niwed o’r fath, neu
(c) yn achos dwyn, camddefnyddio neu gamberchnogi arian neu eiddo, unrhyw golled gan unigolyn o’r arian neu’r eiddo o dan sylw.
(4) Y darpariaethau a bennir at ddibenion paragraff (3) yw darpariaethau rheoliadau 3, 4(1), 11(1), 11(3) a 12(1).
Troseddau – unigolion cyfrifol
56.—(1)(1) Mae’n drosedd i’r unigolyn cyfrifol fethu
â chydymffurfio â gofyniad unrhyw un neu ragor o’r
darpariaethau a bennir ym mharagraff (2)([17]).
(2) Y darpariaethau a bennir at ddibenion paragraff (1) yw darpariaethau rheoliadau 37(1), 38(1), 41(1), 41(2), 43(1), 43(2), 44(1), 44(2), 45(1), 50(4), 51(1), 54(1) a 54(3).
RHAN 17
Darparwyr gwasanaethau sydd wedi eu datod etc. neu sydd wedi marw
Penodi datodwyr etc.
57. Rhaid i berson a benodir([18])—
(a) yn ddi-oed, roi hysbysiad ysgrifenedig i’r rheoleiddiwr gwasanaethau o’i benodiad a’r rhesymau dros ei benodi;
(b) o fewn 28 o ddiwrnodau i’w benodi, hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau am ei fwriadau ynghylch gweithrediad y gwasanaeth yn y dyfodol.
Marwolaeth y darparwr gwasanaeth
58.—(1)(1) Pan fo darparwr gwasanaeth sy’n unigolyn wedi
marw, rhaid i gynrychiolwyr personol yr unigolyn—
(a) yn ddi-oed, roi hysbysiad ysgrifenedig o’r farwolaeth i’r rheoleiddiwr gwasanaethau;
(b) o fewn 28 o ddiwrnodau i’r farwolaeth, hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau am eu bwriadau ynghylch gweithrediad y gwasanaeth yn y dyfodol.
(2) Caiff cynrychiolwyr personol yr unigolyn weithredu yn rhinwedd y darparwr gwasanaeth am gyfnod nad yw’n hwy nag 28 o ddiwrnodau neu am unrhyw gyfnod hwy (nad yw’n hwy nag un flwyddyn) y mae’r rheoleiddiwr gwasanaethau yn cytuno arno.
(3) Pan fo’r cynrychiolwyr personol yn gweithredu yn rhinwedd y darparwr gwasanaeth yn unol â pharagraff (2), mae Rhan 1 o’r Ddeddf yn gymwys gyda’r addasiadau a ganlyn—
(a) nid yw adran 5 (gofyniad i gofrestru) yn gymwys;
(b) yn adran 21(2) (unigolion cyfrifol) ar ôl paragraff (a) mewnosoder—
(aa) pan fo cynrychiolwyr personol darparwr gwasanaeth sydd wedi marw yn gweithredu yn rhinwedd y darparwr gwasanaeth, fod yn un o’r cynrychiolwyr personol;.
RHAN 18
Rheoliadau o dan adran 21(5) o’r Ddeddf
Dynodiad unigolyn cyfrifol gan Weinidogion Cymru
59. Caiff Gweinidogion Cymru (yn lle darparwr gwasanaeth) ddynodi unigolyn i fod yn unigolyn cyfrifol, er nad yw gofynion adran 21(2) o’r Ddeddf wedi eu bodloni mewn cysylltiad â’r unigolyn, o dan yr amgylchiadau a ganlyn—
(a) bod y darparwr gwasanaeth yn unigolyn sydd wedi marw ac mae cynrychiolwyr personol y darparwr gwasanaeth wedi hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau nad ydynt yn bwriadu gwneud cais o dan adran 11(1)(c) o’r Ddeddf;
(b) bod y darparwr gwasanaeth yn unigolyn ac wedi hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau—
(i) na all gydymffurfio â’i ddyletswyddau fel unigolyn cyfrifol mwyach, a
(ii) y rhesymau dros hyn;
(c) bod y darparwr gwasanaeth yn gorff corfforaethol neu’n bartneriaeth ac wedi hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau—
(i) nad yw’r unigolyn sydd wedi ei ddynodi gan y darparwr gwasanaeth fel yr unigolyn cyfrifol yn gallu cydymffurfio â’i ddyletswyddau fel unigolyn cyfrifol mwyach,
(ii) y rhesymau dros hyn, a
(iii) nad oes unrhyw unigolyn arall sy’n gymwys i fod yn unigolyn cyfrifol ac sy’n gallu cydymffurfio â dyletswyddau unigolyn cyfrifol.
Enw
Y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol, o dan awdurdod y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
Dyddiad
ATODLEN 1 Rheoliad 24
PART 1
Gwybodaeth a dogfennau sydd i fod ar gael mewn cysylltiad â phersonau sy’n gweithio mewn gwasanaethau rheoleiddiedig
1. Prawf o bwy yw’r person gan gynnwys ffotograff diweddar.
2. Pan fo’n ofynnol at ddibenion cwestiwn sydd wedi ei esemptio yn unol ag adran 113A(2)(b) o Ddeddf yr Heddlu 1997([19]), copi o dystysgrif cofnod troseddol ddilys a ddyroddir o dan adran 113A o’r Ddeddf honno ynghyd, ar ôl y diwrnod penodedig a phan fo’n gymwys, â’r wybodaeth a grybwyllir yn adran 30A(3) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (darparu gwybodaeth am waharddiadau ar gais).
3. Pan fo’n ofynnol at ddibenion cwestiwn sydd wedi ei esemptio ac a ofynnir at ddiben rhagnodedig o dan adran 113B(2)(b) o Ddeddf yr Heddlu 1997, copi o dystysgrif cofnod troseddol manwl ddilys a ddyroddir o dan adran 113B o’r Ddeddf honno ynghyd, pan fo’n gymwys, â gwybodaeth addasrwydd sy’n ymwneud â phlant (o fewn ystyr “suitability information relating to children” yn adran 113BA(2) o’r Ddeddf honno) neu wybodaeth addasrwydd sy’n ymwneud ag oedolion hyglwyf (o fewn ystyr “suitability information relating to vulnerable adults” yn adran 113BB(2) o’r Ddeddf honno).
4. Dau eirda ysgrifenedig, gan gynnwys geirda gan y cyflogwr diwethaf, os oes un.
5. Pan fo person wedi gweithio’n flaenorol mewn swydd yr oedd ei dyletswyddau yn cynnwys gweithio gyda phlant neu oedolion hyglwyf, cadarnhad, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol, o’r rheswm pam y daeth y gyflogaeth neu’r swydd i ben.
6. Tystiolaeth ddogfennol o unrhyw gymhwyster perthnasol.
7. Pan fo’n berthnasol, tystiolaeth ddogfennol o gofrestriad â GCC.
8. Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau mewn cyflogaeth.
9. Tystiolaeth o allu ieithyddol boddhaol at ddibenion darparu eiriolaeth i’r unigolion hynny y mae’r gweithiwr i’w darparu ar eu cyfer.
10. Manylion cofrestriad ag unrhyw gorff proffesiynol neu aelodaeth o gorff o’r fath.
PART 2
Dehongli Rhan 1
11. At ddibenion paragraffau 2 a 3 o Ran 1 o’r Atodlen hon—
(a) os nad yw’r person y mae’r dystysgrif yn ymwneud ag ef wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, nid yw tystysgrif ond yn ddilys—
(i) os y’i dyroddwyd mewn ymateb i gais gan y darparwr gwasanaeth yn unol â rheoliad 24(3) neu (6); a
(ii) os nad oes mwy na thair blynedd wedi mynd heibio ers i’r dystysgrif gael ei dyroddi;
(b) os yw’r person y mae’r dystysgrif yn ymwneud ag ef wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, mae’r dystysgrif yn ddilys ni waeth pa bryd y’i dyroddwyd.
ATODLEN 2 Rheoliad 31
Y cofnodion sydd i’w cadw
1. Mewn cysylltiad â phob unigolyn, cofnodion o—
(a) cynlluniau eirioli a chynlluniau eirioli diwygiedig,
(b) gohebiaeth, adroddiadau a chofnodion mewn perthynas â’r materion y darperir eiriolaeth ar eu cyfer a’r canlyniad.
2. Cofnod o unrhyw ffioedd gan y darparwr gwasanaeth i unigolion am ddarparu eiriolaeth ac unrhyw wasanaethau ychwanegol.
3. Cofnod o’r holl gwynion a wneir gan unigolion neu eu cynrychiolwyr neu gan bersonau sy’n gweithio yn y gwasanaeth ynghylch gweithrediad y gwasanaeth, a’r camau gweithredu a gymerir gan y darparwr gwasanaeth mewn cysylltiad ag unrhyw gŵyn o’r fath.
4. Cofnod o’r holl bersonau sy’n gweithio yn y gwasanaeth, a hwnnw’n gofnod y mae rhaid iddo gynnwys y materion a ganlyn—
(a) enw llawn, cyfeiriad, dyddiad geni, cymwysterau a phrofiad y person,
(b) copi o dystysgrif geni a phasbort (os oes ganddo un) y person,
(c) copi o bob geirda a geir mewn cysylltiad â’r person,
(d) y dyddiadau y mae’r person yn dechrau cael ei gyflogi felly ac yn peidio â chael ei gyflogi felly,
(e) y swydd sydd gan y person yn y gwasanaeth, y gwaith y mae’r person yn ei wneud a nifer yr oriau y mae’r person wedi ei gyflogi bob wythnos,
(f) cofnodion o gamau disgyblu ac unrhyw gofnodion eraill mewn perthynas â chyflogaeth y person,
(g) cofnod o ddyddiad tystysgrif GDG ac a gymerwyd unrhyw gamau gweithredu o ganlyniad i gynnwys y dystysgrif.
ATODLEN 3 Rheoliad 32
Hysbysiadau gan y darparwr gwasanaeth
1. Unrhyw ddiwygiad i’r datganiad o ddiben, 28 o ddiwrnodau cyn i’r datganiad o ddiben diwygiedig gymryd effaith.
2. Bod y darparwr gwasanaeth (unigolyn neu sefydliad) yn newid ei enw.
3. Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn gwmni, unrhyw newid i gyfarwyddwyr y cwmni.
4. Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn, penodi ymddiriedolwr mewn methdaliad mewn perthynas â’r unigolyn hwnnw.
5. Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn gorff corfforaethol neu’n bartneriaeth, penodi derbynnydd, rheolwr, datodwr neu ddatodwr dros dro mewn perthynas â’r cwmni hwnnw neu’r bartneriaeth honno.
6. Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn bartneriaeth, marwolaeth un o’r partneriaid.
7. Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn bartneriaeth, unrhyw newid i’r partneriaid.
8. Absenoldeb disgwyliedig yr unigolyn cyfrifol am 28 o ddiwrnodau neu ragor, 7 niwrnod cyn i’r absenoldeb ddechrau.
9. Absenoldeb annisgwyl yr unigolyn cyfrifol, heb fod yn hwyrach na 7 niwrnod ar ôl i’r absenoldeb ddechrau.
10. Absenoldeb annisgwyl yr unigolyn cyfrifol am 28 o ddiwrnodau neu ragor, pan na fo hysbysiad ymlaen llaw wedi ei roi, yn union wrth i’r 28 o ddiwrnodau yn dilyn dechrau’r absenoldeb ddod i ben.
11. Bod yr unigolyn cyfrifol yn dychwelyd o fod yn absennol.
12. Bod yr unigolyn cyfrifol yn peidio â bod, neu’n bwriadu peidio â bod, yr unigolyn cyfrifol am y gwasanaeth.
13. Unrhyw gam-drin neu honiad o gam-drin mewn perthynas ag unigolyn sy’n ymwneud â’r darparwr gwasanaeth a/neu aelod o staff.
14. Bod y darparwr gwasanaeth, yr unigolyn cyfrifol neu’r rheolwr a benodir wedi ei euogfarnu o drosedd.
15. Unrhyw honiad o gamymddwyn gan aelod o staff.
16. Unrhyw ddigwyddiad a gaiff ei adrodd i’r heddlu.
17. Unrhyw ddigwyddiadau sy’n atal, neu a allai atal, y darparwr rhag parhau i ddarparu’r gwasanaeth yn ddiogel.
18. Unrhyw gynnig i newid cyfeiriad y brif swyddfa, 28 o ddiwrnodau cyn i’r newid ddigwydd.
19. Unrhyw atgyfeiriad i’r GDG yn unol â Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006([20]).
20. Pan fo’r darparwr gwasanaeth, yr unigolyn cyfrifol neu’r rheolwr a benodir wedi ei gyhuddo o unrhyw drosedd a bennir yn yr Atodlen i Reoliadau Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (Meini Prawf Rhagnodedig a Darpariaethau Amrywiol) 2009([21]), hysbysiad o’r drosedd a gyhuddir a’r man cyhuddo.
21. Achos o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn neu o amheuaeth o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn.
ATODLEN 4 Rheoliad 54
Hysbysiadau gan yr unigolyn cyfrifol
1. Penodi rheolwr (gweler rheoliad 41).
2. Absenoldeb disgwyliedig y rheolwr a benodir, am 28 o ddiwrnodau neu ragor, 7 niwrnod cyn i’r absenoldeb ddechrau.
3. Absenoldeb annisgwyl y rheolwr a benodir, heb fod yn hwyrach na 7 niwrnod ar ôl i’r absenoldeb ddechrau.
4. Absenoldeb annisgwyl y rheolwr a benodir, am 28 o ddiwrnodau neu ragor, pan na fo hysbysiad ymlaen llaw wedi ei roi, yn union wrth i’r 28 o ddiwrnodau yn dilyn dechrau’r absenoldeb ddod i ben.
5. Bod y rheolwr a benodir yn dychwelyd o fod yn absennol.
6. Trefniadau interim pan fo’r rheolwr yn absennol am fwy nag 28 o ddiwrnodau.
7. Bod rhywun arall ac eithrio’r rheolwr a benodir yn bwriadu rheoli neu yn rheoli’r gwasanaeth.
8. Bod y rheolwr a benodir yn peidio, neu’n bwriadu peidio, â rheoli’r gwasanaeth.
([2]) Diffinnir “Deddf 2014” yn adran 189 o’r Ddeddf fel Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4).
([3]) Mae cynnwys y datganiad o ddiben wedi ei ragnodi yn rheoliad 4 o Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) 2017 (O.S. 2017/1098 (Cy. 278)) ac Atodlen 2 iddynt.
([6]) Mae adran 174 o Ddeddf 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol sefydlu gweithdrefn ar gyfer ystyried sylwadau (gan gynnwys cwynion) a gyflwynir i’r awdurdod mewn perthynas ag ystod o’i swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol i’r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â phlentyn.
([7]) Mae adran 176 o Ddeddf 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol sefydlu gweithdrefn ar gyfer ystyried sylwadau (gan gynnwys cwynion) ynghylch cyflawni ei swyddogaethau o dan Rannau 3 i 7 o Ddeddf 2014 mewn perthynas â phlant neu bobl ifanc a fu gynt yn derbyn gofal a phobl ifanc eraill sy’n gysylltiedig.
([8]) Mae paragraff 7(3) o Atodlen 1 i Ddeddf 2016 yn ei gwneud yn ofynnol na all gwasanaeth gael ei bennu’n wasanaeth eirioli at ddibenion Deddf 2016 ond os yw’n wasanaeth a gynhelir (pa un ai er elw ai peidio) at ddiben cynrychioli safbwyntiau unigolion neu helpu unigolion i fynegi’r safbwyntiau hynny, mewn cysylltiad â materion sy’n ymwneud ag anghenion yr unigolion hynny am ofal a chymorth (gan gynnwys materion sy’n ymwneud ag asesu a yw’r anghenion hynny yn bodoli).
[LJ1]The ‘y’ needs to be deleted in the Welsh definition in brackets in the English text.